Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 15 Tachwedd 2017

Amser y cyfarfod: 13.30
 


100(v4)  

------

<AI1>

Enwebu Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

(5 munud)

Bydd y Llywydd yn gwahodd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2F.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Gohiriwyd o 8 Tachwedd

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Gohiriwyd o 8 Tachwedd

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth - Gohiriwyd tan 22 Tachwedd

 

</AI4>

<AI5>

4       Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol - Gohiriwyd tan 22 Tachwedd

 

</AI5>

<AI6>

5       Cwestiynau Amserol

(20 munud)

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllwein Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y camau a gymerir i ddiogelu anifeiliaid gwyllt yn sw y Borth, ger Aberystwyth, yn sgil marwolaeth dau o'i gathod gwyllt?

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau a oedd yn ymwybodol o honiadau o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru yn 2014, o ystyried ei ymateb i gwestiwn ysgrifenedig ym mis Tachwedd 2014 a oedd yn nodi na chafodd unrhyw honiadau eu gwneud?

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Jane Hutt (Bro Morgannwg): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y rhybudd gan Aston Martin ddoe y gallai ei fuddsoddiad yn Sain Tathan fod mewn perygl os na fydd cytundeb ar Brexit?

</AI6>

<AI7>

6       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

</AI7>

<AI8>

Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor

(5 munud)

NDM6569 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Julie James (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle Jane Hutt (Llafur).

</AI8>

<AI9>

7       Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2018-19

(30 munud)

NDM6564 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2018-19, fel y pennir yn Nhabl 1 o “Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2018-19”, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 7 Tachwedd 2017 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

</AI9>

<AI10>

8       Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Gohiriwyd o 8 Tachwedd

(60 munud)

NDM6528

Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod anffurfio organau cenhedlu benywod yn cael ei ymarfer yn eang ledled y byd a bod tua 2,000 o fenywod a merched yng Nghymru yn byw gyda chanlyniadau anffurfio organau cenhedlu benywod.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) defnyddio pob cyfle i godi ymwybyddiaeth o'r arfer hwn;

b) annog ysgolion i drafod hyn fel rhan o'r cwricwlwm Addysg Bersonol a Chymdeithasol a hyfforddi staff;

c) codi ymwybyddiaeth o'r arfer hwn ymysg meddygon teulu a phob ymarferydd meddygol; a

d) gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod y cymunedau yr effeithir arnynt fwyaf yn derbyn cymorth a chefnogaeth i fynd i'r afael â'r broblem.

Cefnogwyd gan:

Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

</AI10>

<AI11>

9       Cyfnod Pleidleisio

 

</AI11>

<AI12>

10   Dadl Fer - Gohiriwyd o 8 Tachwedd

(30 munud)

NDM6556 David J. Rowlands (Dwyrain De Cymru)

Camfanteisio ar fewnfudwyr i'r DU gan gangiau troseddol o fewnfudwyr.

</AI12>

<AI13>

11   Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Seilwaith Digidol yng Nghymru - Gohiriwyd tan 22 Tachwedd

</AI13>

<AI14>

12   Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig - Gohiriwyd tan 22 Tachwedd

</AI14>

<AI15>

13   Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Gohiriwyd tan 22 Tachwedd

</AI15>

<AI16>

14   Dadl Fer (Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)) - Gohiriwyd tan 22 Tachwedd

 

</AI16>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 21 Tachwedd 2017

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>